Gwybodaeth
Eich priodas chi
Rwy'n caru priodasau.
Wir i chi. Nid ydynt byth yn fy niflasu. Y cyffro, y disgwyliad gwirion, y ffrog, y lliw, y conffeti. Rwy'n dotio ar bob rhan ohonynt, ac mae'n ddiddorol gweld sut mae pob cwpwl yn dehongliβr traddodiad yn eu ffordd fach bersonol ac unigryw eu hunain. Pan fyddwch chi'n credu eich bod chi wedi gweld y cyfan, mae rhywun yn dod i'ch syfrdanu drachefn.
Rwy'n tueddu i ddilyn steil dogfennol-newyddiadurol, hynny yw, nid wyf yn canolbwyntio gormod ar 'restr wirio o luniau hanfodol'. Yn hytrach, rwy'n symud o gwmpas eich priodas heb dynnu gormod o sylw at fy hun, gan gofnodi'r diwrnod wrth iddo ddatblygu. Byddaf bob amser yn ceisio defnyddio golau naturiol lle bynnag y bo'n bosibl.
Sut maeβn gweithio
I roi blas o sut y byddwn yn cyd-weithio
Byddwn yn cyfarfod i drafod holl fanylion y briodas. Dyma siawns i chi ofyn unrhyw gwestiynau am fy ngwaith.
Os hoffech drefnu sesiwn ddyweddiad, gallwn nodi dyddiad ar gyfer hyn. Rwyβn argymell sesiwn ddyweddiad yn fawr, maeβn siawns gret i ddod i adnabod ein gilydd a gall hwylusoβr broses o dynnu lluniau ar ddiwrnod y briodas. Dim pwysau o gwbl, ond gallwn drefnu amser i gynllunioβr sesiwn mewn digon o bryd cyn y briodas.
Yn fwy agos at ddyddiad y diwrnod mawr, byddaf yn eich cyfarfod yn lleoliadauβr briodas y a nodiβr manylion gorffenedig ar gyfer y diwrnod.
Y BRIODAS. Rwyβn cyraedd tua dwy awr cyn y seremoni fel bod cyfle i gael lluniau oβr holl baratoadau yn gyntaf. Yn ystod y dydd, rwyβn symud o gwmpas eich diwrnod yn ddistaw, yn dal pob manylyn fel maeβn digwydd.
Ychydig dyddiau ar ol y briodas, bydd rhagflas oβr lluniau yn dod iβch ebost. Gallwch ddefnyddio rhain ar gyfer eich cardiau diolch!
Tua wyth wythnos yn ddiweddarach, bydd yr albym cyfan yn cael ei yrru i chi ar-lein. Yma bydd yr holl luniau i chi bori drwyddynt gyda teulu a ffrindiau.
Byddaf yn creu bocs prints moethus i chi hefoβr USB wedi ei gynnwys. Argraffwch eich lluniau, mae hiβn bwysig i gael lluniau ar y wal yn hytrach nag yn gudd ar y cyfrifiadur.
Cwestiynau Cyffredin
Ydych chiβn teithio ar gyfer priodasau?
Dwi wrth fy modd pan rwyf ar y ffordd i briodas neu brosiect. Mae gen i brofiad o weithio yn lleol yma yng Ngogledd Cymru yn ogystal ag ymhellach yn Sir Gaer, Llundain a hyd yn oed pellach fyth yng ngwledydd Ewrop megis yr Eidal a Sweden.
Ydych chiβn tynnu lluniau cyn y seremoni?
Dwiβn argymell yn fawr i mi gyraedd eich paratoadau o leiaf dwy awr cyn eich seremoni. Mae hyn yn fy ngalluogi i gael lluniau oβr blodau, ffrogiau, siwtiau ac yn y blaen. Dwiβn credu y dylsaiβr priodfab aβr briodferch gael lluniau oβr paratoadau cyn y briodas.
Ydych chi angen ffi archebu?
I sicrhau bod eich dyddiad yn saff yn y dyddiadur, rwyβn gofyn am 50% oβr pecyn iβw gadarnhau. Ar ol trafod y manylion aβch pecyn, gallwn fynd ymlaen i gynllunioβr holl fanylion!
Pryd fydd yr albym ar-lein yn barod i ni?
Y nod yw i gael eich lluniau draw i chi o fewn 12 wythnos. Yn ystod adegau prysur, gall hyn newid on byddaf o hyd mewn cysylltiad i adael chi wybod. Pan fydd y lluniauβn barod, mae croeso i chi ddod iβr swyddfa yn Y Bala iβw gweld, neu os yn anghyfleus, gallaf yrru linc iβr lluniau drwy e-bost i chi.
Fy Ffioedd
Mae fy ffioedd yn edrych yn debyg i hyn felly...
DIWRNOD LLAWN O DYNNU LLUNIAU
yn cychwyn o
Β£2,100
Pecynnau wedi'u teilwra yn Γ΄l y gofyn
Eisiau albwm?
Rwy'n mwynhau dylunio a gwneud llyfrau lluniau, albymau, printiau a fframiau. Mae'n bwysig iawn manteisio i'r eithaf ar eich lluniau, a byddai gwybod nad yw fy lluniau'n gorwedd yn ddigyffwrdd ar eich gyriant caled yn fy helpu i gysgu'r nos!
Dim ond yr albymau Bellissimo Fin Art gorau rwyf yn eu defnyddio.
Rwy'n cynnig amrywiaeth o gynnyrch, o brintiau ar bapur celfyddyd gain o'r ansawdd gorau i luniau mewn fframiau arbennig a wnaed Γ’ llaw.
Prosiectau eraill
Er fy mod yn arbenigo mewn ffotograffiaeth priodas, rwyf hefyd yn tynnu lluniau ar gyfer prosiectau eraill megis:
Bethbynnag y prosiect, rwyf o hyd yn awyddus i ddod iβch adnabod fel bod yr holl luniau yn adlewyrchu eich personoliaeth unigryw chi.