Amdanaf i

 
 

Dywedwch helo wrth Heledd...

HELO!

Wrth fy modd eich bod wedi dod o hyd i mi. Fel y gwyddoch erbyn hyn, fi yw Heledd. Rwy'n hanu o'r Bala yn Eryri, Gogledd Cymru. Mae'n rhan fendigedig o'r byd (er, mi fyddwn i’n dweud hynny, wrth gwrs) sy'n llawn cadwyni o fynyddoedd creigiog ysblennydd a golygfeydd ysgubol o ddyffrynnoedd Cymru. Mae'r aer yn iach a'r llynnoedd yn glir a'r awyr yn ddiddiwedd. Mae'n ddigon i ysbrydoli dyn.

A gallai hynny egluro pam y penderfynais fod yn ffotograffydd. Rwy'n hoff iawn o gerdded ac yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored yn edrych ar y golygfeydd ac yn arbrofi gyda golau yn y mynyddoedd. Mae'n ffordd ardderchog o ddysgu'ch hun am beth sy'n gweithio a ddim yn gweithio. Dwi wrth fy modd gyda lluniau: pytiau bach o atgofion printiedig y gallwch eu cadw am byth. Mae rhywbeth hudol am hynny.

Y rhan arall o'm swydd sy'n fy nghyffroi yw'r teithio. Rwyf wrth fy modd yn meddwl am y byd fel fy stiwdio, ac nid oes yr un lle na aiff fy ngwaith Γ’ mi. Priodasau yn yr Eidal, partΓ―on yn Ffrainc, sesiynau ffasiwn yn HK...rwy'n hoff ar bopeth.

Rydw i eisiau clywed eich stori chi. Dywedwch wrthyf, rwy'n glustiau i gyd. Lle wnaethoch chi gwrdd? Sut wnaethoch chi ddod o hyd i'ch gilydd? Disgyn mewn cariad y tro cyntaf i chi weld eich gilydd? Yn rhamantus? Wedi achosi embaras!? Mae'n anrhydedd go iawn i gael y cyfle i adrodd stori cwpwl ar eu rhan, ac rwyf wrth fy modd yn clywed am y daith sy'n dod Γ’ chi at fy nrws. Mae'n rhaid ei fod yn un o'r pethau gorau am fod yn ffotograffydd - hynny a ddim gorfod eistedd wrth ddesg yn rhy aml.

Ar wahΓ’n i hynny, mae gennyf gath o'r enw Sgwij ac rwy'n gyfaill yfed ardderchog. Rwy'n hoffi llymaid neu ddwy o jin o bryd i'w gilydd!

Wedi ymddangos yn 

 

Ffrindiau Heledd