Gwybodaeth

Lluniau Website - Heledd Roberts Photography-047.jpg

Eich priodas chi

Rwy'n caru priodasau.

Wir i chi. Nid ydynt byth yn fy niflasu. Y cyffro, y disgwyliad gwirion, y ffrog, y lliw, y conffeti. Rwy'n dotio ar bob rhan ohonynt, ac mae'n ddiddorol gweld sut mae pob cwpwl yn dehongli’r traddodiad yn eu ffordd fach bersonol ac unigryw eu hunain. Pan fyddwch chi'n credu eich bod chi wedi gweld y cyfan, mae rhywun yn dod i'ch syfrdanu drachefn.

Rwy'n tueddu i ddilyn steil dogfennol-newyddiadurol, hynny yw, nid wyf yn canolbwyntio gormod ar 'restr wirio o luniau hanfodol'. Yn hytrach, rwy'n symud o gwmpas eich priodas heb dynnu gormod o sylw at fy hun, gan gofnodi'r diwrnod wrth iddo ddatblygu. Byddaf bob amser yn ceisio defnyddio golau naturiol lle bynnag y bo'n bosibl.

 

Photography 21- Heledd Roberts-004.jpg

Sut mae’n gweithio

I roi blas o sut y byddwn yn cyd-weithio 

  • Byddwn yn cyfarfod i drafod holl fanylion y briodas. Dyma siawns i chi ofyn unrhyw gwestiynau am fy ngwaith.

  • Os hoffech drefnu sesiwn ddyweddiad, gallwn nodi dyddiad ar gyfer hyn. Rwy’n argymell sesiwn ddyweddiad yn fawr, mae’n siawns gret i ddod i adnabod ein gilydd a gall hwyluso’r broses o dynnu lluniau ar ddiwrnod y briodas. Dim pwysau o gwbl, ond gallwn drefnu amser i gynllunio’r sesiwn mewn digon o bryd cyn y briodas.

  • Yn fwy agos at ddyddiad y diwrnod mawr, byddaf yn eich cyfarfod yn lleoliadau’r briodas y a nodi’r manylion gorffenedig ar gyfer y diwrnod.

  • Y BRIODAS. Rwy’n cyraedd tua dwy awr cyn y seremoni fel bod cyfle i gael lluniau o’r holl baratoadau yn gyntaf. Yn ystod y dydd, rwy’n symud o gwmpas eich diwrnod yn ddistaw, yn dal pob manylyn fel mae’n digwydd.

  • Ychydig dyddiau ar ol y briodas, bydd rhagflas o’r lluniau yn dod i’ch ebost. Gallwch ddefnyddio rhain ar gyfer eich cardiau diolch!

  • Tua wyth wythnos yn ddiweddarach, bydd yr albym cyfan yn cael ei yrru i chi ar-lein. Yma bydd yr holl luniau i chi bori drwyddynt gyda teulu a ffrindiau.

  • Byddaf yn creu bocs prints moethus i chi hefo’r USB wedi ei gynnwys. Argraffwch eich lluniau, mae hi’n bwysig i gael lluniau ar y wal yn hytrach nag yn gudd ar y cyfrifiadur.

 

Photography 18- Heledd Roberts-001.jpg

Cwestiynau Cyffredin

Ydych chi’n teithio ar gyfer priodasau?

Dwi wrth fy modd pan rwyf ar y ffordd i briodas neu brosiect. Mae gen i brofiad o weithio yn lleol yma yng Ngogledd Cymru yn ogystal ag ymhellach yn Sir Gaer, Llundain a hyd yn oed pellach fyth yng ngwledydd Ewrop megis yr Eidal a Sweden.

Ydych chi’n tynnu lluniau cyn y seremoni?

Dwi’n argymell yn fawr i mi gyraedd eich paratoadau o leiaf dwy awr cyn eich seremoni. Mae hyn yn fy ngalluogi i gael lluniau o’r blodau, ffrogiau, siwtiau ac yn y blaen. Dwi’n credu y dylsai’r priodfab a’r briodferch gael lluniau o’r paratoadau cyn y briodas.

Ydych chi angen ffi archebu?

I sicrhau bod eich dyddiad yn saff yn y dyddiadur, rwy’n gofyn am 50% o’r pecyn i’w gadarnhau. Ar ol trafod y manylion a’ch pecyn, gallwn fynd ymlaen i gynllunio’r holl fanylion!

Pryd fydd yr albym ar-lein yn barod i ni?

Y nod yw i gael eich lluniau draw i chi o fewn 12 wythnos. Yn ystod adegau prysur, gall hyn newid on byddaf o hyd mewn cysylltiad i adael chi wybod. Pan fydd y lluniau’n barod, mae croeso i chi ddod i’r swyddfa yn Y Bala i’w gweld, neu os yn anghyfleus, gallaf yrru linc i’r lluniau drwy e-bost i chi.

Fy Ffioedd

Mae fy ffioedd yn edrych yn debyg i hyn felly...

DIWRNOD LLAWN O DYNNU LLUNIAU

yn cychwyn o

£2,100

Pecynnau wedi'u teilwra yn ôl y gofyn

Products+-+Heledd+Roberts+Photography-004.jpg
Products+-+Heledd+Roberts+Photography-001.jpg

Eisiau albwm?

Rwy'n mwynhau dylunio a gwneud llyfrau lluniau, albymau, printiau a fframiau. Mae'n bwysig iawn manteisio i'r eithaf ar eich lluniau, a byddai gwybod nad yw fy lluniau'n gorwedd yn ddigyffwrdd ar eich gyriant caled yn fy helpu i gysgu'r nos!
Dim ond yr albymau Bellissimo Fin Art gorau rwyf yn eu defnyddio.
Rwy'n cynnig amrywiaeth o gynnyrch, o brintiau ar bapur celfyddyd gain o'r ansawdd gorau i luniau mewn fframiau arbennig a wnaed â llaw.

 

Prosiectau eraill

Er fy mod yn arbenigo mewn ffotograffiaeth priodas, rwyf hefyd yn tynnu lluniau ar gyfer prosiectau eraill megis:

Bethbynnag y prosiect, rwyf o hyd yn awyddus i ddod i’ch adnabod fel bod yr holl luniau yn adlewyrchu eich personoliaeth unigryw chi.