Amdanaf i

 
 
Heledd Roberts Mynydd-001.jpg

Dywedwch helo wrth Heledd...

HELO!

Wrth fy modd eich bod wedi dod o hyd i mi. Fel y gwyddoch erbyn hyn, fi yw Heledd. Rwy'n hanu o'r Bala yn Eryri, Gogledd Cymru. Mae'n rhan fendigedig o'r byd (er, mi fyddwn i’n dweud hynny, wrth gwrs) sy'n llawn cadwyni o fynyddoedd creigiog ysblennydd a golygfeydd ysgubol o ddyffrynnoedd Cymru. Mae'r aer yn iach a'r llynnoedd yn glir a'r awyr yn ddiddiwedd. Mae'n ddigon i ysbrydoli dyn.

A gallai hynny egluro pam y penderfynais fod yn ffotograffydd. Rwy'n hoff iawn o gerdded ac yn treulio llawer o amser yn yr awyr agored yn edrych ar y golygfeydd ac yn arbrofi gyda golau yn y mynyddoedd. Mae'n ffordd ardderchog o ddysgu'ch hun am beth sy'n gweithio a ddim yn gweithio. Dwi wrth fy modd gyda lluniau: pytiau bach o atgofion printiedig y gallwch eu cadw am byth. Mae rhywbeth hudol am hynny.

Y rhan arall o'm swydd sy'n fy nghyffroi yw'r teithio. Rwyf wrth fy modd yn meddwl am y byd fel fy stiwdio, ac nid oes yr un lle na aiff fy ngwaith â mi. Priodasau yn yr Eidal, partïon yn Ffrainc, sesiynau ffasiwn yn HK...rwy'n hoff ar bopeth.

Rydw i eisiau clywed eich stori chi. Dywedwch wrthyf, rwy'n glustiau i gyd. Lle wnaethoch chi gwrdd? Sut wnaethoch chi ddod o hyd i'ch gilydd? Disgyn mewn cariad y tro cyntaf i chi weld eich gilydd? Yn rhamantus? Wedi achosi embaras!? Mae'n anrhydedd go iawn i gael y cyfle i adrodd stori cwpwl ar eu rhan, ac rwyf wrth fy modd yn clywed am y daith sy'n dod â chi at fy nrws. Mae'n rhaid ei fod yn un o'r pethau gorau am fod yn ffotograffydd - hynny a ddim gorfod eistedd wrth ddesg yn rhy aml.

Ar wahân i hynny, mae gennyf gath o'r enw Sgwij ac rwy'n gyfaill yfed ardderchog. Rwy'n hoffi llymaid neu ddwy o jin o bryd i'w gilydd!

Wedi ymddangos yn 

 

Ffrindiau Heledd